YouTubeFacebookTwitter

Sut i wneud cais

View this page in English

Golwg gyffredinol ar Apply, system ar-lein GTTR ar gyfer gwneud ceisiadau

Mae Apply yn system ymgeisio sy'n caniatáu i chi wneud cais ar-lein am gyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-radd gyda darparwyr hyfforddiant yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw'r GTTR yn delio â cheisiadau am gyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-radd yng Ngogledd Iwerddon.

Ar ôl cofrestru i wneud eich cais gofynnir i chi gwblhau'r adrannau canlynol.

  • Manylion personol
  • Gwybodaeth ychwanegol (ymgeiswyr y DU yn unig)
  • Dewisiadau
  • Addysg
  • Datganiad personol
  • Geirda
  • Gweld yr holl fanylion
  • Gwirio'r ffurflen
  • Talu ac anfon.

Bydd angen i chi nodi bod pob adran wedi'i llenwi a chael geirda ar-lein gan eich prif ganolwr cyn y gallwch dalu am eich cais a'i anfon atom.

Ceisio yn Gymraeg

Os ydych chi'n gwneud cais i ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru yn unig, fe allwch chi gwneud cais yn y Gymraeg wrth ddefnyddio y fersiwn Cymraeg GTTR Apply sydd yn rhoi testun sgrîn a chymorth yn Gymraeg. Hefyd, gall eich prif ganolwr rhoi'r eirda yn y Gymraeg trwy'r system ar-lein i ganolwyr.

Derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg

Yn yr adran manylion personol, GTTR Ymgeisio, mae'n bosibl i chi wneud cais am ohebiaeth gan ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru a'r GTTR trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darganfod mwy am sut i wneud cais

I ddarganfod mwy ynglŷn â chael gwybodaeth lawn ynghylch gwneud cais, ewch i'r adran Help with applying ar y wefan hon. Mae'r adran hon ar gael yn y Saesneg yn unig.