YouTubeFacebookTwitter

Pam hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

View this page in English

Mae dros 582,000 o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg, felly, os ydych chi'n bwriadu dysgu yng Nghymru, gallai hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wella'ch rhagolygon am swydd ddysgu yn arw.

Mae Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn cynnig amrediad o gyrsiau cynradd ac eilaidd sydd yn eich hyfforddi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Ewch i'r adran Chwilio am Gwrs i gael rhestr lawn o'r cyrsiau a rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn dilyn cwrs hyfforddiant i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd, gallech dderbyn arian ychwanegol dan y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg.