Gallwch ddilyn trywydd eich cais gan ddefnyddio Track . Pan fydd darparwr hyfforddiant yn gwneud penderfyniad ynghylch eich cais, dangosir y manylion ar Track.
Os gwnaethoch roi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost pan fydd penderfyniad wedi'i wneud. Er mwyn gwarchod gwybodaeth gyfrinachol, ni fydd yr e-bost yn cynnwys yr union benderfyniad: bydd dal angen i chi fynd i Track i weld y manylion.
Os byddwch yn cael cynnig gan un o'r darparwyr hyfforddiant o'ch dewis, dangosir llythyr ar-lein ar Track. Bydd y llythyr yn dangos manylion y cynnig ac unrhyw wybodaeth arall a roddir gan y darparwr hyfforddiant.
Gallwch ddefnyddio Track hefyd i dderbyn neu wrthod cynigion ac i newid rhai manylion personol, megis eich cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.