YouTubeFacebookTwitter

Cyllid myfyrwyr

View this page in English

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, mae'n bosib y bydd gennych hawl i Grant Dysgu'r Cynulliad, Grant Addysgu a Bwrsari Hyfforddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a gwefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion yn ffynonellau gwybodaeth da am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gyllid, gallwch ffonio Canolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0845 602 8845.

Cymhellion ariannol am hyfforddiant i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Fe dderbyniodd rhai athrawon ysgol uwchradd dan hyfforddiant, a oedd wedi dechrau cyrsiau hyfforddi yn 2011 i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, arian ychwanegol o dan y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg. Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at athrawon dan hyfforddiant sydd angen cefnogaeth ychwanegol er mwyn magu hyder yn eu gallu i ddysgu yn effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r darparwyr hyfforddiant unigol yn penderfynu pa rai o'u cyrsiau sy'n addas ar gyfer y cynllun a phwy sy'n gymwys i gael y cyllid ychwanegol. Nid oes dim penderfyniadau wedi eu gwneud ynglŷn â'r Cynllun Gwella Dysgu Cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyrsiau yn dechrau yn 2012. Ewch i'r wefan Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Rheoli eich arian

Mae gofyn cynllunio er mwyn dysgu rheoli'ch arian wrth wneud eich cwrs hyfforddiant athrawon. Bydd angen i chi ddysgu trin eich arian a chyllidebu a byw o fewn eich modd - fel hyn fe welwch ei bod yn llawer haws i chi gynnal eich hun heb fynd i ddyled fawr. Darllenwch ein hadran Rheol Arian (testun Saesneg) i gael awgrymiadau a chyngor, a defnyddiwch ein cyfrifiannell cyllidebu i'ch helpu i gynllunio'ch cyllid.